Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Mynediad at Fancio

Access to Banking

EIS(5) AB01

Ymateb gan Cytûn

Evidence from Cytûn

 

Mae Cytûn yn cynrychioli prif enwadau Cristnogol Cymru a nifer o fudiadau Cristnogol eraill sy’n weithredol yng Nghymru. Mae gan yr enwadau ryw 150,000 o aelodau sy’n oedolion, ac yn ymwneud mewn amrywiol ffyrdd â llawer mwy na hynny o oedolion, plant a phobl ifainc ymhob cymuned yng Nghymru. Gellir gweld rhestr gyflawn o aelodau Cytûn yma: http://www.cytun.co.uk/hafan/pwy-ydym-ni/

 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn hynod amserol o ran Cytûn. Yn Rhagfyr 2018, fe ysgrifennodd Cytûn ar ran nifer o’n haelodau - Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, Cymdeithas y Cyfeillion yng Nghymru a’r Eglwys yng Nghymru – at yr holl brif fanciau sy’n weithredol yng Nghymru, ac at y Swyddfa Bost. Bwriad y llythyron hyn oedd mynegi gofid am y nifer o ganghennau banciau sy’n cau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae nifer o drefi ac ardaloedd cyfain bellach heb yr un fanc â changen weithredol, a rhai ohonynt heb Swyddfa Bost chwaith. Ar yr un pryd, fe gyhoeddwyd erthygl yn y Pedair Tudalen (y rhan honno o’r wythnosolion enwadol Y Tyst, Y Goleuad a Seren Cymru a rennir yn gydenwadol) yn annog aelodau’r eglwysi i ddefnyddio eu canghennau banc lleol sy’n weddill, gan mai diffyg defnydd yw’r esboniad arferol a roddir gan y banciau am eu cau.

Credwn fod cau canghennau yn creu trafferthion difrifol i nifer fawr o bobl, gan gynnwys:

1.      Busnesau ac elusennau lleol – gan gynnwys eglwysi – sydd ag angen talu arian parod a sieciau i’w cyfrif ac heb ddymuno, neu ddim yn gallu, cario’r arian hynny yn bell heb eu diogelu.

2.      Pobl oedrannus neu anabl a theuluoedd ifainc sydd ddim yn gallu teithio’n bell i gangen banc am resymau corfforol neu ariannol.

3.      Y sawl sy’n derbyn y Credyd Cynhwysol, wrth iddo gael ei gyflwyno, sy’n gorfod meddu ar gyfrif banc er mwyn cael yr arian sydd eu hangen arnynt i fyw.

4.      Pan gollir y peiriant codi arian gyda’r gangen, gellir gadael cwsmeriaid yn gorfod talu i godi arian parod, a chyda pheiriannu preifat nad ydynt yn galluogi defnyddio’r Gymraeg.

5.      Unrhyw un nad yw’n gallu, neu ddim yn dymuno, defnyddio cyfleusterau bancio arlein, neu sy’n teimlo’n fwy hyderus yn trafod materion ariannol gyda rhywun wyneb yn wyneb yn hytrach na dros y ffôn neu â pheiriant. Mae llawer ardal o Gymru o hyd heb gysylltiadau band eang addas ar gyfer bancio arlein diogel.

6.      Y sawl sydd am ddefnyddio gwasanaethau bancio trwy gyfrwng y Gymraeg. Fe fu’r banciau yn datblygu eu gwasanaethau Cymraeg mewn canghennau a dros y ffôn am nifer o flynyddoedd, ond nid oes yr un banc yn cynnig bancio arlein trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn pryderu hefyd am y marchnata ffyrnig ar fancio arlein a wneir o fewn rhai canghennau ar hyn o bryd, er y bydd llwyddiant y marchnata hynny yn golygu cau’r gangen. Fe ddeallwn fod banciau yn gyrff preifat sydd â dyletswyddau i’w cyfranddalwyr, ond credwn eu bod hefyd yn cynnig gwasanaeth cyhoeddus o bwys na ellir gwneud hebddo.

Fe awgrymwyd yn ein llythyr fod modd mynd i’r afael â nifer o’r materion hyn heb fynd i fawr o gost. Er enghraifft, fe ofynnom a fyddai’r banciau yn barod i ystyried:

1.      Trefnu gyda’r Swyddfa Bost bod ystod ehangach o wasanaethau banc ar gael i’w cwsmeriaid wrth eu cownteri nhw nag sydd ar gael ar hyn o bryd.

2.      Cyd-drefnu bod y banc olaf mewn unrhyw gymuned yn cynnig gwasanaethau bancio ar ran y banciau i gyd, er mwyn arbed y gwaith mawr o drosglwyddo cyfrif o un banc i’r llall – tasg sy’n anodd i unigolion ond bron yn amhosibl weithiau i elusennau a chwmnïau oherwydd yr holl ofynion diogelwch cyfredol.

3.      Ymrwymo i ymgynghori lleol ystyrlon, gan gynnwys ymgynghori ar gamau megis yr uchod, cyn penderfynu’n derfynol i gau cangen.

Fe dderbyniom ymateb gan bob banc heblaw TSB. Digon tebyg oedd yr holl ymatebion hyn. Fe atodir un ohonynt (gan fanc Lloyds) fel enghraifft – fe fyddem yn falch o ddarparu’r holl ymatebion i’r Pwyllgor pe byddai hynny o gymorth. Nid oeddem yn teimlo eu bod wedi mynd i’r afael â’n pryderon, a negyddol oedd eu hymateb i’r ddau awgrym cyntaf uchod. Roeddem yn siomedig hefyd mai yn uniaith Saesneg y daeth pob un o’r ymatebion hyn (er i un banc gynnig cyfieithu eu hymateb i’r Gymraeg ar gais).

Derbyniom hefyd ymateb gan y Swyddfa Bost. Roeddem yn teimlo fod yr ymateb hwn ychydig yn fwy gobeithiol, a threfnwyd cyfarfod rhyngom â Stuart Taylor, Rheolwr Materion Allanol y Swyddfa Bost ar gyfer Cymru a De-Orllewin Lloegr ar Fai 23. Byddem yn falch o ddarparu adroddiad ar y cyfarfod hwnnw i’r Pwyllgor pe dymunid hynny.

Dymunwn bob rhwyddineb i’r Pwyllgor wrth fynd i’r afael â’r mater hwn. Nodwn gyda chryn ddiddordeb yr awgrym ym maes gorchwyl yr ymchwiliad y gellid sefydlu banc cymunedol gyda changhennau yng Nghymru. Yn wyneb ymateb siomedig y banciau presennol, byddem yn annog y Pwyllgor i ystyried yr awgrym hwn o ddifrif er lles ein cymunedau.

Byddem yn hapus i fod o gymorth pellach i’r Pwyllgor pe dymunech.